Remember! If only a piece of the sample, untranslated, appears after you press Translate!, there is a linebreak, semicolon, or bracket in your text. You have to get rid of it first.
Type or paste your chosen text into the box, and then click Translate! You can also use the sample passages below the box - click on the heading to open the passage. Note that anything entered in the box will be truncated to 900 characters.
Words not currently in the dictionary will be marked with an asterisk.
Since apertium-cy is still under development, please note:
Y Pren Afalau - ID Hooson (p40, Cerddi a Baledi, Gwasg Gee, 1958)
Daeth haid o wenyn gwynion ar gangau'r goeden ir, a gwelais hwy yn cysgu dan olau'r heulwen glir. Roedd rhywun yn eu siglo, gan suo isel gerdd, a'r gwenyn yn breuddwydio ar gangau'r goeden werdd.
Strategaeth Pysgodfeydd (1) (new.wales.gov.uk/news/presreleasearchive/1840579/?lang=cy, 2008)
Mae dyframaethu, sef magu pysgod yn fasnachol mewn modd cynaliadwy, wedi hen sefydlu yng Nghymru bellach ac mae’r dechnoleg yng Nghymru yn sail i ddatblygiadau pellach yn y sector hwn ledled y byd. Mae’r strategaeth yn tynnu sylw at y dechnoleg newydd hon, yn arbennig y cyfle mae’n ei gynnig i ymestyn y gwahanol rywogaethau sy’n addas i’w ffermio er mwyn cael mwy o gyflenwad o rywogaethau pysgod y môr o ystyried y lleihad yn niferoedd y stociau naturiol.
Cwningod - ID Hooson (p101, Cerddi a Baledi, Gwasg Gee, 1958)
Dwy gwningen fechan yn eistedd ger y llwyn, un yn gwrando'n hapus ar gân yr adar mwyn, a'r llall â'i phawen felfed yn rhwbio blaen ei thrwyn.
Cwyn y Gwynt - John Morris-Jones (p393, Oxford Book of Welsh Verse, OUP, 1989)
Cwsg ni ddaw i'm hamrant heno, dagrau ddaw ynghynt. Wrth fy ffenest yn gwynfannus yr ochneidia'r gwynt. Codi'i lais yn awr, ac wylo, beichio wylo mae. Ar y gwydr yr hyrddia'i ddagrau yn ei wylltaf wae. Pam y deui, wynt, i wylo at fy ffenestr i? Dywed im, a gollaist tithau un a'th garai di?
Atgo - Hedd Wyn
Dim ond lleuad borffor ar fin y mynydd llwm, a sŵn hen afon Prysor yn canu yn y cwm.
Morys y Gwynt - ID Hooson (p104, Cerddi a Baledi, Gwasg Gee, 1958)
Morys y Gwynt â'i ddwyfoch goch, yn neidio a dawnsio a gweiddi'n groch, ac Ifan y Glaw yn eistedd yn brudd, a'r dagrau yn llifo i lawr ei rudd.
Strategaeth Pysgodfeydd (2) (new.wales.gov.uk/news/presreleasearchive/1840579/?lang=cy, 2008)
Byddwn yn annog pobl yn y diwydiant i gyfrannu at yr ymgynghoriad fel y gallwn symud ymlaen i lunio strategaeth derfynol a fydd yn sail i ddiwydiant sy'n gynaliadwy, sydd ar sail gadarn yn ariannol ac sydd wedi'i reoleiddio'n dda. Roedd yn dda gennyf gyhoeddi yr wythnos diwethaf fod Cymru wedi derbyn 11m gan Gronfa Bysgodfeydd Ewrop. Bydd hyn yn ein helpu â'n gwaith o sicrhau dyfodol y diwydiant pysgodfeydd yng Nghymru.
Gweinidog dros Dreftadaeth (1) (new.wales.gov.uk/news/presreleasearchive/2440297/?lang=cy, 2008)
Pleser mawr imi yw croesawu Alun Ffred Jones i'r Cabinet. Oherwydd ei gefndir, mae'n hynod gymwys i fod yn Weinidog dros Dreftadaeth. Mae wedi gweithio'n galed iawn fel Aelod Cynulliad ac fel prif lefarydd Plaid Cymru ar gyllid ers y llynedd. Rwy'n siŵr y bydd ei gyfraniad fel Gweinidog dros Dreftadaeth yn un cadarnhaol iawn.
Gweinidog dros Dreftadaeth (2) (new.wales.gov.uk/news/presreleasearchive/2440297/?lang=cy, 2008)
Braint aruthrol yw cael fy ngwahodd i wasanaethu pobl Cymru. Fel Gweinidog dros Dreftadaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, rwy'n benderfynol o adeiladu ar y seiliau cadarn a osodwyd gan Rhodri Glyn Thomas, ac i wireddu’r ymrwymiadau a nodir yng nghytundeb Cymru'n Un. Gan fy mod i'n Aelod Cynulliad dros Arfon, fy ngobaith yw y bydd modd i mi hefyd gyfrannu at amcanion y Llywodraeth hon o ran uno'n Cenedl, lledaenu ffyniant a magu hyder yn ein gallu i wneud penderfyniadau da er lles Cymru.
Dramâu - Bethan Gwanas (p3, Yr Herald Cymraeg, 30 Gorffenaf 2008)
Ac yng nghefn gwlad, mae gennym ni ein adloniant ein hunain: dramâu byrion ac ati. Na, nid ydyn nhw ddim yn broffesiynol iawn, a'r un dramâu sy'n tueddu i gael eu gwneud drosodd a throsodd, ond mae hynny'n digwydd yn eitha aml efo dramâu proffesiynol hefyd, erbyn meddwl.
Garddio - Bethan Wyn Jones (p2, Yr Herald Cymraeg, 30 Gorffenaf 2008)
Mae yna sbardun i'r blodyn a hwn ydi'r darn hir sy'n arwain o'r labelwm i gefn y blodyn. Mae mymryn o berarogl ar y blodau yma ac maen nhw'n denu'r gwenyn a phryfetach atyn nhw i'w peillio. Bwydo ar y siwgr melys sydd yn y sbardun mae'r pryfetach a'r gwenyn. Mae'r golofn yn codi'n syth ac mae'r anther, sydd hefyd yn syth, yn lliw porffor.
Y Stafell Ddirgel (1) - Marion Eames (p15, Y Stafell Ddirgel, Llyfrau'r Dryw, 1969)
Mor dawel oedd hi yma. Dim sibrwd heno, dim hyd yn oed gan y dderwen fawr na'r pinwydd ar y twmpath y tu ôl i'r tŷ. Safai fflam y gannwyll yn syth ac yn llonydd. Cododd ar ei heistedd yn sydyn. Daeth i'w chlyw sŵn crensian traed ar y llwybr caregog cul yn arwain at y llidiart.
Y Stafell Ddirgel (2) - Marion Eames (p62, Y Stafell Ddirgel, Llyfrau'r Dryw, 1969)
Daeth yr eira yn ystod ail wythnos Ionawr. Bu'r gwynt rhewllyd yn chwipio i lawr o'r mynyddoedd, a dywedodd pawb wrth ei gilydd ei bod hi'n rhy oer i fwrw eira. Ond fe ddechreuodd ddisgyn am bedwar o'r gloch y prynhawn ar ôl i'r gwynt ostegu peth - mor dawel â chath, mor ysgafn â phlu'r gweunydd. "Eira mân, eira mawr" ebe'r hen bobl a'u gwaed yn rhedeg yn oerach byth gan ofn. Ond hyd yn hyn ychydig a ddisgynasai, dim ond fel petai rhywun wedi arllwys powdr ar berwig y ddaear.
Yr Athro - Thomas Parry (p14, John Morris-Jones, Gwasg Prifysgol Cymru, 1958)
Ond yn awr am yr ail ddarlun - John Morris-Jones mewn cylch cyfyngach. Yr ydym yn ôl tua'r flwyddwyn 1924, yng Ngholeg Bangor, ac y mae bron yn amser dechrau un o'r darlithoedd Cymraeg. Aeth y merched i mewn i'r ystafell Gymraeg, ac y mae'r bechgyn y tu allan yn siarad, efallai'n canu. Tawodd y siarad a'r canu yn sydyn, oherwydd daeth Syr John rownd y gongl, a cherdded yn bwyllog urddasol i'r ystafell. Awn ninnau ar ei ôl, bawb i'w sedd. Eistedd yr Athro wrth y bwrdd, a galw enwau aelodau'r dosbarth - yn bwyllog o hyd - a phawb yn ateb "Yma".
Y Sant - EG Bowen (p90, Dewi Sant, Gwasg Prifysgol Cymru, 1983)
Gymaint oedd enwogrwydd a rhagoriaeth Dewi oherwydd ei sancteiddrwydd a'i allu gwyrthiol, cyn ac ar ôl ei farw, fel y cynyddodd y pererindodau i'w feddrod yn gyflym ymhlith y rhai a ddymunai gael ei fendith neu ei nodded neu weddïo wrth ei feddrod pan oeddynt mewn angen. Yn gynnar yn y ddeuddegfed ganrif, fe lwyddodd ei gefnogwyr mewn swyddi uchel i gael gan y Pab gydnabod cwlt Dewi yn swyddogol.
Owain Lawgoch - ID Hooson (p84, Cerddi a Baledi, Gwasg Gee, 1958)
Mae'r goelcerth ar y bryniau tal yn lludw oer cyn hyn, a blin yw'r milwr ar y tŵr, a'r gwyliwr ar y bryn.
Nasareth - Aron Pritchard (www.cynghanedd.com/annedd/content/view/466/4, 2008)
Rhyw olion Swper Ola' ydyw byd eu bom ger Golgotha heno, ond ni fydd yna Drydydd Dydd newyddion da.
Y Fantell Fraith - ID Hooson (p58, "Cerddi a Baledi", Gwasg Gee, 1958)
Llygod! O, dyna i chwi lygod a dyna i chwi sŵn! Rhai cymaint â chathod, bron cymaint â chŵn. Rhai duon, rhai llwydion, rhai melyn, rhai brith, yn lluoedd afrifed cyn amled â'r gwlith. Rhai gwynion, rhai gwinau, rhai tewion, rhai tenau.
Cerdd Dant Heddiw (www.cerdd-dant.org, 2008)
Ers ei sefydlu ym 1934 mae'r Gymdeithas Gerdd Dant wedi tyfu a datblygu yn gyson. Bellach mae ganddi 600 o aelodau ac mae'n cyflogi Trefnydd rhan amser, Dewi Jones. Uchafbwynt gweithgareddau'r flwyddyn yw'r Ŵyl Gerdd Dant, gŵyl undydd a gynhelir bob mis Tachwedd. Cynhelir dau gwrs hyfforddi bob blwyddyn: un i ddysgu sut i osod cerdd dant a'r llall ar gyfer telynorion i ddysgu sut i gyfeilio. Mae'r gymdeithas yn trefnu pabell ac arddangosfa bob blwyddyn yn Eisteddfod yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol.
Nodiadau Gwers (Yr Adran Gymraeg, Ysgol David Hughes, 2008)
Fel arfer mae ansoddair yn dod ar ôl enw, ond yma mae'n dod cyn yr enw "haul". Gwneir hyn i bwysleisio diwrnod mor fendigedig oedd hi. Mae'r gair "fflam" yn disgrifio lliw oren llygaid y llwynog i'r dim. Mae ei lygaid yn sefydlog, mae'n rhythu ar y dynion.
Tafodiaith - Beth Thomas, Peter Wynn Thomas (p5, "Cymraeg, Cymrâg, Cymrêg", Gwasg Taf, 1989)
Gan mai unigolion ydym, a'n profiadau personol o'r byd yn wahanol, ni ellir cyffredinoli ynglŷn â'r union adeg a'r union fodd y byddwn yn dechrau meinhau ein clustiau a chraffu ar nodweddion ieithyddol gwahanol i'n rhai ein hunain.
As well as the above, a collection of 100 sentences from the PNAW corpus is available here, which shows how a (slightly earlier version of) apertium-cy deals with "official" text.